Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Mai 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5657
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau ei bod wedi cael ei hysbysu o dan Reol Sefydlog 1.3 bod pedwar Aelod Cynulliad wedi ffurfio grŵp newydd, ac y byddai’n ystyried ei chyfrifoldebau o dan y Rheolau Sefydlog ac yn hysbysu’r Cynulliad o’i chasgliadau.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Cododd Alun Davies bwynt o drefn, yn gofyn i’r Llywydd ystyried ei disgresiwn o dan Reol Sefydlog 1.4 wrth benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw Aelod yn perthyn i grŵp gwleidyddol neu i ba grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn. Nododd yr Aelod, gan fod y pedwar Aelod Cynulliad o dan sylw wedi sefyll i’w hethol o dan blaid wleidyddol wahanol, bod eu grwpio newydd yn tanseilio democratiaeth y Cynulliad. Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am ei bwynt o drefn, a nododd y bydd y Rheolau Sefydlog yn sail i’w hystyriaethau.
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Dywedodd y Llywydd wrth y Cynulliad bod y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru), yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.
Dechreuodd yr eitem am 13.32
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 7 a 9 - 10. Cafodd cwestiynau 4 a 10 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Cafodd cwestiwn 8 ei dynnu yn ôl, er i’r Llywydd nodi bod yr Aelod yn y Siambr i allu gofyn y cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
David Rees (Aberafon): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y cyd-fenter yn cael ei hatal?
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Ymhellach i'r datganiad ysgrifenedig ddoe, a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gamgymeriad CThEM parthed cyfraddau treth incwm yng Nghymru?
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog a Prif Chwip
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed heddiw gan Rhodri Williams CF yn disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un ddi-rym?
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad am - Codi’r mater o glefyd Seliag yn ystod wythnos ymwybyddiaeth seliag.
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Dechreuodd yr eitem am 16.13
NDM7020 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon.
2. Yn nodi mai diben y bil hwn fydd:
a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a
b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.35
NDM7002 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gall prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.
2. Yn nodi bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro ai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu monitro; a
b) amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7050 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.
2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys:
a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg;
b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith;
c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt; a
d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio rhatach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
30 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 3b, dileu “ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith” a rhoi yn ei le “a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
18 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
'sicrhau bod darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe. '
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7050 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.
2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys:
a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg;
b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith;
c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt;
d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio rhatach; a
e) sicrhau bod darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
4 |
0 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd
Dechreuodd yr eitem am 18.06
Dechreuodd yr eitem am 18.08
NDM7051 Lynne Neagle (Torfaen)
Dysgu hirach ar gyfer bywydau gwell, diogelach: yr achos dros godi oedran cyfranogi mewn addysg yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.31
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mai 2019